|
Aberdaron yw’r pwynt gorllewinol pellaf un
yng ngogledd Cymru, a’r ardal fwyaf digyffwrdd a welwch chi
ar dir mawr Prydain. Ar ôl un ymweliad, bydd yn siŵr o gael
lle yn eich calon am byth. Mae nifer o bobl yn dychwelyd dro
ar ôl tro i fwynhau’r pentref bach swynol hwn ar ben eithaf
Pen Llŷn. |

Eglwys Hywyn Sant
Mae dwy nant yn rhedeg i lawr dau wahanol ddyffryn ac yn
uno ymysg y bythynnod lliwgar yng nghanol y pentref, sy’n gwneud
Aberdaron yn lleoliad prydferth iawn. Mae nifer o artistiaid wedi talu
teyrnged i’w olau a’i liwiau cyfnewidiol dros y blynyddoedd.
Mae Gwesty Tŷ Newydd yn fan cychwyn delfrydol i archwilio
hyfrydwch a swyn Pen Llŷn, sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Mae’n le gwych i gychwyn cerdded llwybr arfordirol Llŷn. Beth am fynd am
drip cwch i Ynys Enlli o Borth Meudwy gerllaw? Neu ymweld â Phlas yn
Rhiw, sydd bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i
fwynhau’r tŷ a’r gerddi yn ogystal â cherdded llwybrau’r goedwig?
Ymysg amwynderau eraill yr ardal mae cyfleoedd i chi
feicio, chwarae golff, pysgota a hwylio. Neu mwynhewch bleser syml y
traeth, gan dreulio’ch amser yn codi cestyll tywod, yn fforio’r pyllau
glan môr, yn nofio ac yn ymlacio.
Y tu allan i dymor yr haf, mae’r gaeafau’n dyner ac mae’r
llwybrau’n dawelach, sy’n golygu ei fod yn amser gwell o lawer i’r
rheiny ohonoch chi sydd eisiau dianc rhag pawb a phopeth am ddiwrnod neu
ddau, neu fwy os dymunwch chi.

Ynys Enlli |

Bae Aberdaron |

Ynys Enlli |
Rydych yn siŵr o groeso cynnes gan Iain a Wilma a holl
staff Gwesty Tŷ Newydd pa adeg bynnag o’r flwyddyn fydd hi, gan fod pob
tymor yma ym Mhen Llŷn yn cynnig ei brydferthwch unigryw ei hun
Lluniau, Tony Jones (www.golaullyn.co.uk) |