|
Mae yna weithgareddau awyr agored gwych ar ein
trothwy – dyma ein rhestr ni o’r prif bethau i’w gwneud pan ddewch
chi i aros.
Mwynhewch ddiod ar y teras newydd gan wylio’r haul yn
machlud dros Fae Aberdaron.
Mae Sky Sports ar gael yn ein bar cyhoeddus.
Ewch am dro ar hyd llwybr yr arfordir i gildraeth y
pysgotwyr (gallwn drefnu teithiau cerdded gyda thywysydd os
cysylltwch chi â ni ymlaen llaw)
Gallwn drefnu i chi fynd ar drip cwch i fwynhau’r
bywyd gwyllt a’r hanes morol o amgylch Pen Llŷn.
Mentrwch ychydig ymhellach – mae yna dri chwrs golff
i chi ddewis ohonynt tua 20 munud o’r gwesty.
“Ar y gweill”
– Beth am gael profiad o bysgota tra byddwch chi ar eich gwyliau?
Mae yna lyn pysgota lleol ble gallwch chi ddal Brithyll a Charp o
fewn milltir a hanner i’r gwesty.
Mae croeso yma i gerddwyr - drwy gysylltu â ni ymlaen
llaw, gallwn drefnu i rywun eich tywys ar daith gerdded ar hyd
arfordiroedd hyfryd Aberdaron. Ac os bydd hi’n digwydd bod yn dywydd
gwlyb, gallwch fwynhau diod gynnes yn y gwesty ar ôl cyrraedd yn ôl,
tra byddwn ninnau’n gofalu am sychu eich dillad yn yr “ystafell
sychu”. |